Datganiadau iechyd
Pan fyddwch chi'n gwneud cais i gofrestr y GDC, rhaid i chi ddweud wrthym ni am unrhyw gyflyrau iechyd perthnasol a allai effeithio ar, neu sydd wedi effeithio ar, ddiogelwch cleifion, pobl rydych chi'n gweithio gyda nhw, neu'ch gallu i wneud eich gwaith yn ddiogel. Wrth gyflwr iechyd, rydym yn golygu salwch, anaf neu anabledd/nam, boed yn gorfforol neu'n feddyliol.
Er nad rhestr derfynol yw hon, dyma enghreifftiau o gyflyrau y byddem yn disgwyl gwybod amdanynt:
- Nam ar y golwg heb ei gywiro
- Presenoldeb unrhyw glefyd heintus, firws a gludir yn y gwaed (twbercwlosis, hepatitis B) neu glefyd trosglwyddadwy arall
- Meddyginiaeth wedi'i rhagnodi sy'n amharu'n sylweddol ar yr ymateb imiwnedd
- Clefyd neu bryderon seiciatrig
- Pryderon sy'n gysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau.
Os byddwch yn datgan cyflwr iechyd, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol, fel datganiad gan eich meddyg teulu/arbenigwr yn cadarnhau eich bod yn addas i weithio neu unrhyw beth arall rydych chi'n teimlo sy'n berthnasol i'ch cyflwr.
Os gallwch ddangos eich bod yn rheoli eich cyflwr iechyd fel nad yw'n effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith yn ddiogel, ni ddylai fod unrhyw effaith ar eich cais.
Os ydych chi eisoes ar y gofrestr ac yn datblygu cyflwr iechyd a allai effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith yn ddiogel, bydd angen i chi ddweud wrthym.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau hunan-ardystio iechyd.